Mae cwestiynau cyffredin i’w gweld isod. Bydd y dudalen yn cael ei diweddaru wrth i gwestiynau newydd gael eu gofyn ac wrth i'r prosiect fynd yn ei flaen yn ystod y broses ddatblygu.
C: Ble mae'r prosiect?
A: Mae safle Parc Ynni Calon y Gwynt tua 2.7km i'r gogledd-ddwyrain o Garno, Powys, yn y Canolbarth.
C: Beth yw Parc Ynni?
A: Mae Parciau Ynni yn ffordd arloesol o wneud y mwyaf o fanteision ynni adnewyddadwy posibl safle penodol, gan ganiatáu defnydd effeithlon o'r adnoddau sydd ar gael i gynhyrchu ynni 'glân'.
Cynigir y bydd Parc Ynni Calon y Gwynt yn cynnwys cyfuniad o dyrbinau gwynt, paneli solar a batris storio ynni a fydd yn caniatáu cynhyrchu, storio ac allforio ynni adnewyddadwy yn llawer mwy effeithlon.
C: Pam mae angen y prosiect?
A: Mae angen cyflwyno mwy o gynlluniau ynni adnewyddadwy i ymateb i'r heriau sy'n ein hwynebu gyda’r newid yn yr hinsawdd. Bydd symud i ffwrdd o danwydd ffosil yn ein helpu nid yn unig i fynd i'r afael â’r newid yn yr hinsawdd, ond hefyd i symud tuag at ddiogelwch ynni a helpu i fynd i'r afael â’r argyfwng costau byw trwy ddarparu ffynonellau ynni amgen mwy fforddiadwy.
Ar ben hynny, cyhoeddodd Cyngor Sir Powys argyfwng hinsawdd ar 24 Medi 2020, a oedd yn cynnwys yr uchelgais i leihau ei allyriadau carbon i sero net, yn unol â tharged sector cyhoeddus Cymru o 2030. Bydd Parc Ynni Calon y Gwynt yn cyfrannu at hyn yn ogystal ag uchelgais Cymru ar gyfer 100% o ynni adnewyddadwy erbyn 2035.
C: Pryd fyddai Parc Ynni Calon y Gwynt yn weithredol pe bai'n llwyddiannus?
A: Rydym yn gweithio gyda'r Grid Cenedlaethol i gadarnhau dyddiad cysylltu â'r grid, felly ni allwn gadarnhau dyddiad gweithredol ond byddwn yn diweddaru'r wefan hon pan fydd y wybodaeth ar gael.
C: Ble alla i weld rhagor o wybodaeth am Barc Ynni Calon y Gwynt?
A: Mae Wind2 yng nghamau cynnar datblygu cais cynllunio ar gyfer Parc Ynni Calon y Gwynt. Y cais am Farn Gwmpasu Asesiad o'r Effaith Amgylcheddol (AEA) i Benderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru (PEDW) https://www.llyw.cymru/datblygiadau-o-arwyddocad-cenedlaethol-dns-ceisiadau yw'r cam cyntaf wrth ddeall pa asesiadau fydd eu hangen fel rhan o'r Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol. Cyflwynwyd y ddogfen gwmpasu i PEDW er mwyn cael barn gwmpasu ym mis Ionawr 2025.
Bydd mwy o wybodaeth yn cael ei darparu i gymunedau lleol drwy gydol y camau ymgynghori cyhoeddus anffurfiol a statudol sydd i fod i ddechrau Gaeaf/Gwanwyn 2025. Bydd y wefan hon yn cael ei diweddaru'n rheolaidd gyda'r holl wybodaeth ddiweddaraf wrth i'r prosiect fynd yn ei flaen. Bydd gwybodaeth am yr ymgynghoriadau cyhoeddus yma pan fydd ar gael.
C: Pam mae safle Calon y Gwynt wedi cael ei ddewis ar gyfer y parc ynni?
A: Yn Wind2, rydyn ni’n cynnal proses ddichonoldeb helaeth sy’n cynnwys sawl cam wrth asesu addasrwydd safle ar gyfer cynhyrchu ynni adnewyddadwy. Mae hyn yn cynnwys edrych ar yr amrywiol ddisgyblaethau amgylcheddol a thechnegol, megis sŵn, ecoleg, effaith tirwedd, amwynder preswyl, grid, cyflymder gwynt, lleoliad a chryfder yr haul a llawer mwy.
Mae Parc Ynni Calon y Gwynt wedi mynd trwy’r broses hon ac mae wedi cael ei adolygu'n helaeth. Mae Calon y Gwynt wedi'i ddewis fel safle addawol ar gyfer cynhyrchu ynni adnewyddadwy gan ein tîm hynod brofiadol ac ymgynghorwyr annibynnol oherwydd cyflymder y gwynt a’r ffaith ei fod wedi'i leoli'n gyfan gwbl o fewn Ardal wedi’i Rhag-asesu (PAA) ar gyfer Ynni Gwynt fel y'i diffinnir yn y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol – Cymru'r Dyfodol: Y Cynllun Cenedlaethol 2040[1] gyda'r holl dyrbinau wedi'u lleoli yn PAA 3.
[1] Llywodraeth Cymru, (2021). Cymru'r Dyfodol: Y Cynllun Cenedlaethol 2040. Ar gael ar-lein yn: https://www.llyw.cymru/cymrur-dyfodol-y-cynllun-cenedlaethol-2040
C: A fydd yr ynni fydd yn cael ei gynhyrchu o'r Parc Ynni yn cael ei ddosbarthu'n lleol?
A: Bydd yr ynni fydd yn cael ei gynhyrchu ar y safle yn cael ei fwydo'n uniongyrchol i'r grid, ac yna’n cael ei ddosbarthu ar draws y rhwydwaith. Er y byddai Wind2 yn hoffi gweld y trydan sy'n cael ei gynhyrchu yng Nghalon y Gwynt yn cael ei ddosbarthu'n lleol, mae hyn yn cael ei reoli gan y Gweithredwr Rhwydwaith Trawsyrru ac felly ni ellir gwarantu hyn yn anffodus.
Fodd bynnag, bydd ychwanegu prosiectau ynni adnewyddadwy ledled Cymru yn cyfrannu at ostwng biliau ynni dros amser, gan fod gwynt ar y tir a solar yn fwy cost-effeithiol wrth gynhyrchu trydan na chynhyrchu tanwydd ffosil.
C: Sut bydd y parc ynni o fudd i'r cymunedau lleol?
A: Mae Wind2 ac Octopus Energy wedi ymrwymo i sicrhau bod y cymunedau lleol yn elwa ar y parc ynni a byddant yn darparu cronfa budd cymunedol bwrpasol yn ogystal â chyfleoedd ar gyfer rhanberchnogaeth gymunedol.
Fel rhan o'n cylch o ymgynghoriadau cyhoeddus sydd ar y gweill, byddwn yn gofyn am farn cymunedau lleol ar sut dylid rheoli, dosbarthu a defnyddio'r gronfa. Yn ogystal, byddwn yn cael darlun o’r diddordeb yn y cyfle i gael rhanberchnogaeth gymunedol. Bydd rhagor o wybodaeth am y ddwy elfen yn cael ei darparu i'w thrafod drwy ein hymgynghoriadau cyhoeddus.
Bydd y Parc Ynni hefyd o fudd i'r gymuned drwy greu swyddi lleol a chyfraniad refeniw uniongyrchol ychwanegol i'r economi leol drwy'r gadwyn gyflenwi leol.
C: Beth yw cytundeb cysylltiad grid ac a oes un wedi'i sicrhau?
A: Cytundeb cysylltiad grid yw'r trefniant contract rhwng Parc Ynni Calon y Gwynt a'r rhwydwaith pŵer i gysylltu'r parc ynni â'r grid lleol. Mae'r cytundebau hyn yn nodi faint o bŵer y mae gan y grid y capasiti i'w gymryd o'r parc ynni a phryd y gellir cysylltu'r pŵer.
Mae Parc Ynni Calon y Gwynt wedi cyflwyno cais cysylltiad grid am gapasiti allforio o hyd at 102MW i'r Grid Cenedlaethol.
Bydd Wind2 yn parhau i weithio gyda Pherchnogion y Rhwydwaith Trawsyrru i ganfod pa geblau fydd eu hangen i hwyluso'r Parc Ynni.
C: A fydd y grid yn gallu cymryd y trydan ychwanegol a gynhyrchir gan Calon y Gwynt?
A: Bydd, pan dderbynnir y cynnig cysylltiad grid bydd yn seiliedig ar y capasiti sydd ar gael i gysylltu â'r Grid Cenedlaethol.
C: Faint o sŵn fydd y parc ynni yn ei greu?
A: Bydd Wind2 yn ymdrechu i leihau a lliniaru sŵn lle bynnag y bo modd trwy ddylunio a chaffael y technolegau diweddaraf ar gyfer y Parc Ynni.
Bydd effaith sŵn benodol parc ynni yn dibynnu ar y gymysgedd o dechnoleg, lleoliad y safle, a'r ymdrechion a wneir gan ddatblygwyr i leihau llygredd sŵn. Bydd Wind2 yn gweithio gydag ymgynghorwyr annibynnol, Hayes McKenzie, i werthuso a lliniaru unrhyw aflonyddwch sŵn posibl. Bydd ein gwaith yn cadw at gyfyngiadau sŵn cyfreithiol llym sy'n ofynnol gan ganllawiau ETSU-R-97, a phe bai'r prosiect yn cael cydsyniad, byddwn yn monitro lefelau sŵn yn rheolaidd i sicrhau cydymffurfiaeth.
C: Bydd hyn yn cael effaith weledol – pa fesurau fydd yn cael eu cymryd i geisio lliniaru hyn / gwrthbwyso'r niwed hwn?
A: Bydd Asesiad o'r Effaith ar y Dirwedd a’r Effaith Weledol (LVIA) yn cael ei gynnal gan ymgynghorwyr annibynnol a bydd lefelau'r effeithiau'n cael eu hasesu o nifer o safbwyntiau allweddol, y cytunwyd arnynt mewn ymgynghoriad â Chyngor Powys a'r gymuned leol o bosibl. Bydd Wind2 hefyd yn ymgynghori â Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) i sicrhau bod y cynigion wedi'u cynllunio'n briodol.
C: Pa mor hir fydd y cyfnod adeiladu yn ei gymryd a sut bydd yn cael ei reoli?
A: Ar hyn o bryd rydym yn amcangyfrif y gallai adeiladu'r prosiect gymryd hyd at ddwy flynedd. Bydd Cynllun Rheoli Adeiladu drafft yn cael ei lunio fel rhan o'r cais cynllunio a fydd yn amlinellu sut bydd y broses hon yn cael ei rheoli. Bydd hyn yn cael ei gytuno gyda'r awdurdodau perthnasol cyn i unrhyw waith adeiladu ddechrau ar y safle, pe bai caniatâd cynllunio'n cael ei roi.
C: Beth yw'r Cynigion ar gyfer Mynediad i'r safle a faint o symudiadau traffig sy'n cael eu rhagweld fel rhan o'r broses adeiladu?
A: Mae gwaith i gadarnhau'r llwybr a ffefrir ar gyfer y llwybr cyflenwi offer a deunyddiau yn digwydd ar hyn o bryd. Bydd arfarniad manwl o effeithiau traffig a thrafnidiaeth y prosiectau yn cael ei baratoi gan ymgynghorwyr trafnidiaeth annibynnol a bydd y wybodaeth yn cael ei chynnwys yn y Bennod Trafnidiaeth a fydd yn rhan o'r Asesiad o'r Effaith Amgylcheddol (AEA).
C: A fydd staff llawn amser ar y safle ar ôl i’r parc gael ei adeiladu?
A: Er y bydd y Parc Ynni yn gweithredu fel ei fusnes ei hun gyda phersonél penodedig, mae'n annhebygol y bydd staff llawn amser ar y safle. Fodd bynnag, bydd personél lleol yn ymweld â’r safle o dro i dro i wirio gweithrediadau, diogelwch y safle, a gwneud gwaith cynnal a chadw parhaus.
C: Sut bydd y safle’n cael ei ddiogelu? Os oes camerâu, sut byddan nhw’n cael eu defnyddio?
A: Mae’r cynigion yn dal i gael eu datblygu felly nid yw union fanylion y trefniadau diogelwch a fydd yn cael eu gweithredu ar draws ardal y safle yn hysbys ar hyn o bryd. Mae'n fwyaf tebygol y bydd nifer o gamerâu diogelwch yn cael eu defnyddio i ddiogelu'r asedau solar, yn wynebu'n syth at yr elfennau hyn ac nid oes bwriad iddynt ddal delweddau o'r tu allan i'r safle.
C: A fydda i’n derbyn gostyngiad ar fy mil trydan os ydw i'n byw yn ddigon agos i Barc Ynni Calon y Gwynt?
A: O gofio bod y prosiect yn ei ddyddiau cynnar, mae manylion unrhyw becyn budd cymunedol yn dal i gael eu datblygu. Weithiau bydd pecynnau o’r fath yn cynnwys rhai buddion lleol, fel gostyngiad ar filiau ynni, ond nid ydyn ni mewn sefyllfa ar hyn o bryd i gadarnhau manylion. Bydd mwy o wybodaeth ar gael pan fydd manylion wedi’u cadarnhau.
Fodd bynnag, rydyn ni’n disgwyl y bydd prosiectau ynni adnewyddadwy yn arwain at ostwng biliau ynni yn y tymor hir wrth i ni symud i ffwrdd o danwydd ffosil.
C: Os bydd yn cael ei gymeradwyo, faint fydd y datblygwr yn ei dderbyn mewn cymorthdaliadau a ariennir gan y llywodraeth?
A: Er bod cymorthdaliadau wedi bod ar gael ar gyfer prosiectau ynni adnewyddadwy yn y gorffennol, daeth y rhain i ben yn 2014. O'r herwydd, nid oes unrhyw gymorthdaliadau ar gael ar hyn o bryd ar gyfer prosiectau o'r math hwn.
C: Beth yw uchder y tyrbinau gwynt a sut mae hyn yn cael ei benderfynu?
A: Byddai'r tyrbinau gwynt hyd at 200m o uchder hyd at flaen y llafnau. Mae nifer o ystyriaethau wrth benderfynu ar yr uchder mwyaf priodol y tyrbinau (o ran uchder y tŵr a’r uchder hyd at flaen y llafnau) gan gynnwys effeithiau tirwedd, effeithiau ar fywyd gwyllt (yn enwedig adar) a chyflymder gwynt sydd ar gael.
Mae uchder y tyrbinau uwchben lefel y ddaear yn cael eu diffinio gan uchder y 'tŵr' (pwynt canolog y tyrbin lle mae'r llafnau wedi’u cysylltu), ynghyd â hyd y llafnau.
Lle bo'n briodol, mae cynyddu uchder y tŵr a diamedr troi’r tyrbinau yn golygu bod modd manteisio ar wyntoedd cyflymach, yn cynyddu effeithlonrwydd tyrbinau (h.y., bydd y tyrbin yn cynhyrchu mwy o ynni 'glân' dros ddiamedr troi mwy) ac yn lleihau cost gyffredinol cynhyrchu ynni gwynt.
Er ei fod yn ymddangos yn groes i’r graen, mae tyrbinau talach yn aml yn fwy cost-effeithiol yn y tymor hir. Mae eu hallbwn ynni mwy yn golygu bod angen llai o dyrbinau i gyrraedd y targedau sero net. Hefyd, mae defnyddio tyrbinau talach ond llai ohonyn nhw yn lleihau ôl troed cyffredinol y prosiect, sy'n helpu i liniaru unrhyw effaith bellach ar dirweddau lleol, cynefinoedd bywyd gwyllt ac ecosystemau.
C: Pam mae'r tyrbinau gwynt mor dal?
A: Mae tyrbinau talach yn cynhyrchu llawer mwy o ynni na pheiriannau llai. Mae eu hallbwn ynni mwy yn golygu bod angen llai o dyrbinau i gael yr allbwn mwyaf.
C: Faint o dyrbinau gwynt sy'n cael eu cynnig?
A: Mae cyfanswm o hyd at 11 o dyrbinau gwynt yn cael eu cynnig ar gyfer Parc Ynni Calon y Gwynt.
C: Sut mae'r prosiect hwn yn cymharu â Fferm Wynt Mynydd Clogau gerllaw?
A: Bydd tyrbinau gwynt Parc Ynni Calon y Gwynt yn cael eu dewis i fod mor effeithlon â phosibl, sy'n lleihau'r nifer cyffredinol. Ers i Fferm Wynt Mynydd Clogau gael ei chomisiynu ym mis Ebrill 2006, mae technoleg ynni adnewyddadwy wedi gwella'n sylweddol a gyda thyrbinau talach a llafnau ymyl ôl danheddog, mae'r tyrbinau newydd nid yn unig yn fwy effeithlon ond maen nhw hefyd yn llawer tawelach.
C: A fydd gan y tyrbinau gwynt oleuadau arnynt?
A: Mae'r Awdurdod Hedfan Sifil (CAA) yn ei gwneud yn ofynnol i bob tyrbin sy'n dalach na 150m gael goleuadau hedfan coch gweladwy i sicrhau diogelwch awyrennau. O ganlyniad, bydd tyrbinau gwynt Parc Ynni Calon y Gwynt angen goleuadau hedfan, er nad ydyn ni’n gwybod faint o’r goleuadau hyn fydd eu hangen ar hyn o bryd.
Bydd asesiad goleuo yn ystod y nos yn cael ei gynnal fel rhan o'r Asesiad o'r Effaith ar y Dirwedd a’r Effaith Weledol i ddeall yn llawn yr effeithiau posibl sy'n deillio o'r goleuadau ar y tyrbinau.
Bydd Wind2 yn cynnal ymgynghoriad llawn gyda'r awdurdodau perthnasol i gytuno ar y strategaeth oleuadau fel rhan o'r cais cynllunio.
C: Allan o beth mae tyrbin gwynt wedi'i wneud?
A: Mae tyrbinau gwynt wedi'u gwneud o amrywiaeth o ddeunyddiau; fodd bynnag, maen nhw wedi'u gwneud yn bennaf o ddur, cyfansoddion gwydr ffibr, ac aloion arbenigol.
Mae dur yn cael ei ddefnyddio fel arfer i adeiladu’r tŵr, cydrannau’r gerbocs, a’r prif siafftiau oherwydd ei gadernid a'i wydnwch. Mae aloion metel yn cael eu defnyddio ar gyfer cydrannau’r generadur ac amrywiol elfennau strwythurol.
Mae cyfansoddion gwydr ffibr yn cael eu defnyddio’n bennaf ar gyfer llafnau tyrbinau gwynt i ddarparu gwydnwch a hyblygrwydd.
Mae’r deunyddiau hyn yn cael eu dewis i sicrhau gwydnwch ac effeithlonrwydd wrth ddal ynni gwynt a gwrthsefyll amodau amgylcheddol, ac i leihau'r effeithiau ehangach ar yr amgylchedd gymaint â phosibl.
C: A oes modd ailgylchu llafnau tyrbinau gwynt?
A: Mae tua 96% o dyrbin gwynt yn cael ei wneud o ddeunyddiau y gellir eu hailgylchu.
Mae llafnau tyrbin gwynt yn cael eu gwneud o wahanol ddeunyddiau; fodd bynnag, maen nhw’n cael eu gwneud gyda gwydr ffibr gan amlaf i sicrhau cryfder a gwydnwch. Er y gall y deunyddiau hyn achosi heriau ailgylchu, mae'r diwydiant wedi ymrwymo i weithio tuag at atebion mwy cynaliadwy. Am fwy o wybodaeth am ailgylchu llafnau tyrbinau gwynt, ewch i: Can wind turbine blades be recycled? – National Grid 2023.
C: A yw ymyl blaen tyrbinau gwynt yn erydu?
A: Gall ymyl blaen llafnau tyrbinau gwynt erydu dros amser oherwydd cyfuniad o ffactorau, gan gynnwys amodau amgylcheddol a grymoedd aerodynamig ar wyneb y llafnau. Mae ymchwilwyr o'r farn bod yr erydiad yn ddibwys oherwydd y mesurau a gymerir yn ymarferol i leihau hyn gymaint â phosibl.
Er mwyn lliniaru erydiad ymyl blaen llafnau, mae gweithgynhyrchwyr a gweithredwyr tyrbinau gwynt yn defnyddio sawl strategaeth fel archwiliadau a gwaith cynnal a chadw rheolaidd i asesu cyflwr y llafnau. Mae'r llafnau hefyd wedi'u gorchuddio â deunyddiau amddiffynnol, megis paent nad yw'n wenwynig sy'n gwrthsefyll erydiad, sy'n lleihau effaith ffactorau amgylcheddol ac yn ymestyn oes y llafnau.
Mae mwy o wybodaeth ar gael yma.
C: Faint o wastraff fydd yn cael ei olchi i'r pridd o'r tyrbinau gwynt?
A: Ychydig iawn o ddeunydd sy’n erydu o lafnau tyrbinau gwynt. Serch hynny, wrth i dechnoleg esblygu, mae hyn yn parhau i gael ei leihau a'i liniaru.
Mae archwiliadau a gwaith cynnal a chadw rheolaidd a mesurau ataliol fel gorchuddio’r llafnau â phaent nad yw’n wenwynig ac sy’n gwrthsefyll erydiad i gyd yn cyfrannu at golli llai o ddeunyddiau o’r ymylon blaen.
C: A fydd y tyrbinau gwynt sydd mewn golwg yn achosi problemau i’r gylfinir, y gwalch, yr hebog tramor, y barcud coch, ystlumod, a phryfed?
A: Bydd Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol cynhwysfawr yn cael ei lunio (gan ddefnyddio ymgynghorwyr annibynnol) a fydd yn cydymffurfio'n llawn â'r canllawiau manwl cyfredol sydd wedi’u paratoi gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) ac ymgyngoreion statudol perthnasol eraill. Bydd yr arolygon hyn yn asesu presenoldeb ac ymddygiad y rhywogaethau bywyd gwyllt hyn, ymhlith eraill, gan gynnwys eu harferion nythu a chwilota am fwyd, patrymau mudo, ac unrhyw ryngweithio posibl â'r tyrbinau gwynt.
C. Beth yw Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol?
Disgrifiad byr o'r hyn ddylai fod yn adran gyflwyno Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol yn yr adroddiad cwmpasu.
Prif amcan yr Asesiad o'r Effaith Amgylcheddol yw gwerthuso'n drylwyr unrhyw effeithiau niweidiol posibl ar y planhigion a’r anifeiliaid a'r amgylchedd a datblygu strategaethau i liniaru a lleihau'r effeithiau hyn. Rydyn ni wedi ymrwymo i weithio ar y cyd â'n hymgynghorwyr amgylcheddol annibynnol, ymgyngoreion statudol (fel CNC), awdurdodau lleol a grwpiau ymchwil i sicrhau bod bywyd gwyllt lleol yn cael ei amddiffyn.
C: Pa mor effeithlon yw tyrbinau gwynt?
A: Gall effeithlonrwydd tyrbin gwynt amrywio yn dibynnu ar sawl ffactor, gan gynnwys dyluniad y tyrbin, cyflymder y gwynt, a gwaith cynnal a chadw.
Ar gyfartaledd, mae gan dyrbinau gwynt modern ar raddfa fawr ffactor capasiti o tua 25% i 45%. Mae hyn yn golygu eu bod yn cynhyrchu trydan ar eu capasiti graddedig tua chwarter i bron hanner yr amser.
C: Pwy fydd yn cynhyrchu tyrbinau gwynt Parc Ynni Calon y Gwynt a ble fydd y gwaith cynhyrchu yn digwydd?
A: Os caiff ganiatâd cynllunio, bydd Parc Ynni Calon y Gwynt yn cynnal ymarfer caffael tyrbinau gydag amrywiaeth o wneuthurwyr tyrbinau i sicrhau bod y tyrbinau a ddefnyddir yn diwallu anghenion a nodau penodol y prosiect. Bydd sawl ffactor yn cael ei ystyried yn ystod y broses hon, megis lleoliad y safle, argaeledd, cyfanswm allbwn pŵer, cost ac effaith amgylcheddol y prosiect.
Mae rhai o'r gwneuthurwyr tyrbinau y byddwn yn cysylltu â nhw yn ystod y broses hon yn cynnwys (ymhlith eraill) Vestas, Enercon, Nordex a Siemens Gamesa.
Bydd lleoliad y gweithgynhyrchu yn dibynnu ar ganlyniad yr ymarfer caffael ac argaeledd y tyrbinau gwynt yn unol â dyddiadau cau’r prosiect a'n dyddiad cyflwyno grid. Byddai Wind2 yn gweithio i sicrhau bod cynifer â phosibl o elfennau’n cael eu caffael yn lleol i sicrhau'r buddion mwyaf posibl i gadwyn gyflenwi Cymru.
C: Pa mor gyflym mae tyrbinau gwynt yn troi?
A: Gall y cyflymder y mae tyrbinau gwynt yn troi amrywio yn dibynnu ar eu dyluniad, eu maint ac amodau'r gwynt yn eu lleoliad.
Mae ystod nodweddiadol ar gyfer cyflymder cylchdroi'r llafnau ar dyrbin gwynt modern ar raddfa fawr rhwng 10 i 20 troad y funud (RPM) o dan amodau gweithredu arferol.
C: A yw tyrbinau gwynt yn gwrthbwyso eu hôl troed carbon yn llwyr?
A: Mae tyrbinau gwynt yn ffynhonnell ynni carbon isel i garbon niwtral wrth ystyried eu cylch oes llawn, o weithgynhyrchu i weithredu, o'i gymharu â chynhyrchu pŵer gan ddefnyddio tanwydd ffosil.
Mae p'un a yw tyrbinau gwynt yn gwrthbwyso eu hôl troed carbon yn llwyr yn dibynnu ar nifer o ffactorau, gan gynnwys dyluniad penodol y tyrbin, prosesau gweithgynhyrchu, y lleoliad, a'r gymysgedd ynni a ddefnyddir wrth eu hadeiladu a'u cynnal a chadw.
Bydd Parc Ynni Calon y Gwynt yn ymdrechu i osgoi a gwrthbwyso unrhyw garbon a gynhyrchir o ganlyniad i'r datblygiad.
Bydd pob uned o drydan a gynhyrchir gan ynni adnewyddadwy (gwynt a solar) yn disodli uned o drydan a gynhyrchir yn gonfensiynol, gan leihau allyriadau. Mae gan bob GWh o ynni adnewyddadwy y potensial i ddisodli 437 tunnell o CO2 a fyddai'n cael ei allyrru pe bai'r ynni’n cael ei gynhyrchu gan danwydd ffosil.
C: A oes modd ailgylchu’r paneli solar?
A: Yn y rhan fwyaf o achosion, gellir ailgylchu hyd at 99% o banel solar. Mae yna brosesau wedi hen sefydlu ar gyfer hyn yn y DU. Er enghraifft, mae gan gwmnïau fel PV Cycle UK seilwaith pwrpasol ac maen nhw’n gweithio'n agos gyda chynhyrchwyr i sicrhau cydymffurfiaeth â deddfwriaeth.
Gallwch ddysgu mwy am ailgylchu paneli a'r deunyddiau a ddefnyddir yn Everything Under the Sun: The Facts about Solar.
C: A yw'r paneli solar yn cynhyrchu unrhyw sŵn?
A: Nid yw'r paneli eu hunain yn cynhyrchu unrhyw sŵn. Os yw paneli wedi'u gosod ar ffrâm olrhain, yna mae ychydig bach o sŵn yn cael ei greu gan y moduron olrhain – fodd bynnag ni fydd hyn yn wir am brosiect Parc Ynni Calon y Gwynt.
Gall y seilwaith trydanol sy'n gysylltiedig â pharciau solar gynhyrchu sŵn. Bydd angen asesu gwrthdroyddion a thrawsnewidyddion yn erbyn terfynau penodol fel rhan o'r cais cynllunio. Unwaith eto, nid yw'r sŵn o’r seilwaith hwn yn sylweddol ac, ar y cyfan, mae'n hawdd ei liniaru trwy osod gwrthdroyddion i ffwrdd o dderbynyddion sensitif i sŵn.
C: A fydd ychwanegu'r paneli solar yn effeithio ar lifogydd lleol?
A: Mae gosod paneli solar fel arfer yn cael effaith fach iawn ar lifogydd lleol. Mae paneli solar wedi'u cynllunio i gael eu gosod ar strwythurau a'u codi uwchben y ddaear, fel bod dŵr yn gallu llifo'n rhydd oddi tanynt. Yn ogystal, nid oes arwyddion bod paneli solar eu hunain yn achosi i ddŵr gronni na’u bod yn amharu ar batrymau draenio naturiol.
Bydd Asesiad Risg Llifogydd neu Hydroleg manwl yn cael ei gynnal fel rhan o'r cais cynllunio. Mae hyn yn aml yn cynnwys adolygiad astudiaeth ddesg o gyrsiau dŵr cyfagos a phrofi cyfraddau ymdreiddiad safleoedd. Os bernir bod y cynllun yn cael effaith andwyol ar yr amgylchedd lleol, yna bydd mesurau lliniaru yn cael eu gweithredu. Weithiau mae'r rhain yn cynnwys sianeli draenio neu addasu cynllun y safle.
C: A yw'r paneli solar yn cael eu glanhau gyda chemegau?
A: Mae gweithgynhyrchwyr fel arfer yn cynghori yn erbyn defnyddio cemegau neu lanedyddion niweidiol i lanhau paneli solar. Mae dŵr wedi’i ddad-ïoneiddio yn ddewis cyffredin ac ecogyfeillgar ar gyfer glanhau paneli solar oherwydd ei fod yn helpu i atal difrod ac yn lleihau cyflwyno cemegau i'r amgylchedd. Mae'r dull hwn yn cyd-fynd ag arferion gorau ar gyfer cynnal a chadw paneli solar a chynaliadwyedd amgylcheddol.
C: A yw'r paneli solar yn cynhyrchu unrhyw lewyrch a llacharedd?
A: Mae paneli solar wedi'u cynllunio'n bennaf i amsugno golau ar gyfer cynhyrchu ynni yn hytrach na'i adlewyrchu. Fodd bynnag, yn ystod y broses o wneud cais cynllunio, bydd asesiad yn cael ei gynnal o effeithiau llewyrch a llacharedd posibl, gan ystyried ardaloedd neu dderbynyddion sensitif cyfagos, fel meysydd awyr. Mae'r asesiad hwn yn sicrhau bod unrhyw broblemau posibl yn cael eu hystyried yn drylwyr a'u lliniaru i atal tarfu neu beryglon diogelwch.
C: Ble fydd y paneli solar yn cael eu cynhyrchu?
A: Mae paneli solar yn cael eu cynhyrchu mewn gwahanol wledydd ledled y byd, gan gynnwys sawl gwlad Ewropeaidd, Tsieina, yr Unol Daleithiau ac India.
Mae'r dewis o leoliad gweithgynhyrchu yn aml yn dibynnu ar ffactorau fel cost-effeithlonrwydd, mynediad at ddeunyddiau, a galw’r farchnad.
Ni fydd paneli sy'n cynnwys sylweddau perfflworoalcyl a polyfflworoalcyl (PFAS) yn cael eu defnyddio i adeiladu elfen solar y prosiect. Bydd hyn yn cyfyngu ar yr effaith ar y priddoedd a'r cyrsiau dŵr lleol. Bydd yr holl geblau sy'n gysylltiedig â'r paneli solar ffotofoltaidd yn cael eu gosod o dan y ddaear trwy ffosydd.
C: Beth sy'n digwydd os bydd panel solar yn torri? Oes rhaid newid y rhes gyfan?
A: Os yw panel solar yn torri, nid yw o reidrwydd yn golygu bod angen newid y rhes gyfan. Mae paneli solar fel arfer wedi’u cysylltu mewn arae, fel eu bod yn gweithredu'n annibynnol. Os yw un panel mewn rhes wedi'i ddifrodi neu'n methu, mae modd ei newid yn unigol heb effeithio ar berfformiad y paneli eraill.
C: A yw effeithlonrwydd y paneli yn gyson dros amser neu a fydd angen eu newid dros oes y parc ynni?
A: Mae effeithlonrwydd paneli solar fel arfer yn diraddio'n araf dros amser, ond nid oes angen eu newid yn ystod oes parc ynni. Mae paneli solar wedi'u cynllunio i gael bywyd gweithredol hir, sy’n aml yn amrywio o 25 i 30 mlynedd.
Mewn rhai achosion, os yw effeithlonrwydd yn dirywio’n sylweddol neu os oes amodau gwarant penodol, gellir newid paneli unigol yn ôl yr angen i sicrhau'r cynhyrchiad ynni gorau posibl.
Er mwyn cynnal perfformiad y parc ynni, bydd gwaith cynnal a chadw a monitro rheolaidd yn cael ei gynnal.
C: Pam mae angen batris storio ynni fel rhan o'r datblygiad hwn os yw'r ynni'n cael ei fwydo'n uniongyrchol i'r grid?
A: Bydd batris ar y safle yn storio ynni glân i'w fwydo i'r grid yn ystod cyfnodau o alw brig. Mae hyn yn helpu i sicrhau cyflenwad sefydlog a chyson o ynni, tra hefyd yn sicrhau nad oes unrhyw ynni glân yn cael ei wastraffu.
C: Pa mor fawr yw'r unedau storio batri?
A: Er bod yr union fanylebau ar gyfer y batris yn dal i gael eu datblygu, yn gyffredinol mae pob batri oddeutu 17m x 8m. Ar gyfer cynnig storio batri 20MW, fel arfer byddai 8 batri mewn dwy res o bedwar. Bydd cynlluniau dangosol ar gyfer hyn yn cael eu darparu fel rhan o'r cais cynllunio i'r Uned Cydsyniadau Ynni a bydd rhagor o wybodaeth am faint a manyleb y batris yn hysbys ar hyn o bryd.
C: A yw batris storio ynni yn peri risg o dân neu ffrwydrad?
A: Fel gydag unrhyw ddyfais drydanol, mae’r mymryn lleiaf o risg tân yn gysylltiedig â gosod a gweithredu'r batris. Er mwyn rheoli a lliniaru'r risg fach hon, mae Rheoli Asedau Parc Ynni yn cynnwys asesiadau iechyd a diogelwch rheolaidd, gan gynnwys archwiliadau tân (fel arfer bob wythnos, neu bob pythefnos). Bydd gosod priodol, archwiliadau rheolaidd, a chadw at ganllawiau Iechyd a Diogelwch yn helpu i liniaru'r risg hon ymhellach. Byddai'r batris yn cael eu harchwilio'n barhaus i sicrhau nad yw diogelwch yn cael ei beryglu.
C: A fydd y batris yn cynhyrchu unrhyw sŵn?
A: Yn gyffredinol, mae lefel isel o 'hymian' a suo o'r cydrannau trydanol a’r ffaniau yn yr unedau storio. Er hynny, ystyrir bod y sŵn yn ddibwys a bod rhaid bod yn agos iawn i’r unedau i allu ei glywed.